Wedi’i swatio yng nghefn gwlad hardd Gypsy Lane, Groes-wen, Caerdydd CF15 7UN, mae The Meadows Wildlife Park yn cynnig profiad bythgofiadwy i bawb o bob oedran. Wedi’i wasgaru ar draws 21 o erwau, mae’r parc yn cyfuno hud cwrdd ag anifeiliaid â harddwch natur, gan ei wneud yn gyrchfan y mae’n rhaid ymweld â hi i deuluoedd, grwpiau ysgol, a phawb sy’n dwlu ar anifeiliaid.
Dewch i gwrdd â’r teulu o anifeiliaid anhygoel sy’n cynnwys:
Ffefrynnau fferm fel geifr, moch micro, asynnod, gwartheg, ieir, hwyaid, twrcïod, alpacaod, a merlod Shetland;
Mae hefyd anifeiliaid ecsotig fel lemyriaid cynffon cylchog, tamariniaid pen cotwm, capybaraod, armadilod, swricatiaid, loricitiaid enfys, walabïod, llygod y paith, ceirw Llychlyn, emwiaid;
Ymlusgiaid, gan gynnwys crwbanod, nadroedd, madfallod;
…a llawer mwy, gan gynnig profiad gwirioneddol unigryw gydag anifeiliaid na fyddwch chi’n dod o hyd iddyn nhw yn unman arall yn lleol.
Bwyty The Willows – Mwynhewch brydau a diodydd ffres, wedi’u gwneud cartref yn y bwyty cefn gwlad, sy’n lle perffaith i ymlacio ar ôl archwilio’r parc.
Mannau digwyddiadau – mae’r mannau lleoliad aml-ddefnydd yn ddelfrydol ar gyfer partïon pen-blwydd, gweithdai, digwyddiadau corfforaethol, dathliadau tymhorol a llogi preifat.
Pasg yn The Meadows – Dathlu’r gwanwyn gyda The Meadows! Dewch i gwrdd â chywion a hwyaid bach, cymryd rhan yn llwybr y Pasg, a mwynhau crefftau â thema.
Partïon Ewyn Dyddiol – Ymunwch yn yr hwyl gyda phartïon ewyn llawn egni – yn boblogaidd iawn gyda’r plant bob hanner tymor ac yn ystod yr haf!
Digwyddiadau Calan Gaeaf Arswydus – Mwynhewch lwybrau thematig, cyfarfyddiadau brawychus ac adloniant arswydus i’r teulu cyfan.
Profiadau Nadolig Hudolus – Dewch i gwrdd â Siôn Corn, cymryd rhan mewn gweithgareddau Nadoligaidd a mwynhau profiad gwirioneddol aeafol wedi eich amgylchynu gan anifeiliaid.
Mae The Meadows hefyd yn cynnig ymweliadau addysgol, gan alinio â dulliau’r Cwricwlwm Cenedlaethol a’r Ysgol Goedwig, gan wneud dysgu yn hwyl ac yn gofiadwy.
Profiadau ag Anifeiliaid – Dewch hyd yn oed yn agosach at yr anifeiliaid gyda chyfarfyddiadau anifeiliaid sy’n gallu cael eu harchebu, gan gynnwys profiadau â swricatiaid, cwrdd â chapybaraod, trin geifr a thrin anifeiliaid bach – mae rhywbeth at ddant pawb.
I gadw eich lle, ewch i – https://themeadowswildlifepark.co.uk/
Am ragor o wybodaeth, ffoniwch 029 2080 7185
Neu e-bostiwch admin@themeadowswildlifepark.co.uk
Cadwch yn gysylltiedig – ‘Hoffwch’ dudalen The Meadows ar Facebook a’i dilyn i gael yr wybodaeth ddiweddaraf am y digwyddiadau diweddaraf, newyddion anifeiliaid a gweithgareddau tymhorol.
Dewch i brofi ochr wyllt Caerffili yn The Meadows Wildlife Park – lle mae natur, dysgu a hwyl yn dod at ei gilydd!