Mae’r gwesty wedi’i leoli mewn tŷ tref â saith ystafell wely a adeiladwyd yn hwyr yn ystod oes Fictoria/yn gynnar yn ystod oes Edward, tua 1901. Mae’r llety gyferbyn â chwrs golff Caerffili ar stryd uchel ei pharch yn y dref sy’n cysylltu Heol Caerdydd â Hen Ysbyty’r Glowyr, sy’n adeilad hanesyddol.
Mae chwe ystafell wely en suite sydd â chyfleusterau i wneud te a choffi a theledu. Gall gwesteion ddisgwyl gwasanaeth cyfeillgar a phersonol pan fyddant yn aros yn y gwesty teuluol hwn.
Wedi’i leoli yng Nghaerffili a dim ond pum munud ar droed i ganol y dref a’r orsaf drenau lle mae trenau’n mynd yn uniongyrchol i Gaerdydd, mae Tŷ Castell yn cynnig cysur, cyfleustra a phrofiad ardderchog o ymweld â’r dref hanesyddol hon. Mae gan yr eiddo cyfnod hwn, sy’n 15-20 munud o Gaerdydd yn y car, ar y bws neu ar y trên, faes parcio preifat ac ystafelloedd mawr hyfryd.