10cilomedr Caerffili 2022

May 15, 9:00am - May 15, 5:00pm

Disgwylir i Ras 10 Cilomedr Caerffili Bryn Meadows ddychwelyd yn 2022 ar ddydd Sul 15 Mai, ynghyd â Ras 2 Gilomedr Caerffili Bryn Meadows.

Gyda disgwyl i 2,500 o redwyr o bob gallu ddod i Gaerffili o bob cwr o’r wlad i fwynhau’r digwyddiad, rydyn ni’n disgwyl i’r digwyddiad yn 2022 fod yn fwy ac yn well.

Ac yntau’n digwydd yng nghysgod Castell Caerffili, bydd Ras 10 Cilomedr Caerffili Bryn Meadows yn dechrau ac yn gorffen ar Crescent Road. Bydd gan redwyr y cyfle i gael amser rhedeg da ar gwrs cymharol wastad gyda rhai pwyntiau bryniog. Bydd y cwrs yn arwain cyfranogwyr drwy ganol y dref, ac o’i chwmpas, gan fynd heibio tirnodau eiconig, gan gynnwys y cerflun enfawr o gaws a cherflun Tommy Cooper, ar hyd y ffordd, ac yn cynnig golygfeydd gwych o’r castell canoloesol, sy’n gefndir syfrdanol i’r digwyddiad blynyddol.

Gosodwyd record newydd ar y cwrs gan Matthew Clowes yn 2018, a wnaeth croesi’r llinell derfyn mewn 30 munud a 33 eiliad a disgwylir i nifer o ymgeiswyr elitaidd a chystadleuol geisio ymgymryd â’r record yn 2021.

Trefnwyd y digwyddiad gan Gyngor Bwrdeistref Sirol Caerffili, wedi’i noddi gan Bryn Meadows Golf, Hotel and Spa ac wedi’i gefnogi gan Athletau Cymru a Chwaraeon Cymru.

Mae cofrestru ar gyfer 2022 bellach ar agor! Cliciwch yma! 

Essential information

Contact Name
Contact
https://www.caerphilly10k.co.uk/cy/
Email
Email Address
10k@caerphilly.gov.uk
Phone
Phone
029 2088 0011

You may also be interested in: