Bydd rhan o ganol y dref, Sgwâr Hanbury a Plaza Lowry yn ferw o brysurdeb ar gyfer yr hen a’r ifanc o 9am I 5pm. Bydd detholiad o stondinau bwyd a chrefft yn rhoi’r cyfle i chi dechrau’ch siopa Nadolig wrth fwynhau awyrgylch Nadoligaidd braf.
Bydd gweithgareddau’r penwythnos hefyd yn cynnwys Llawr Sglefrio Iâ Bargod, ym maes parcio dan ddaear Morrisons. Yn dilyn galw mawr, bydd y llawr sglefrio iâ yn dychwelyd i Fargod o ddydd Mercher 20 Tachwedd i ddydd Sul 24 Tachwedd â chost o £3 y person.
Mae Bargod hefyd yn cynnig ystod fendigedig o siopau annibynnol a brandiau’r Stryd Fawr gan roi cyfle i chi ddechrau eich siopa Nadolig. Profwch dref fechan gyda llawer i’w gynnig wrth i Fargod ddod yn fyw gyda reidiau ffair, theatr stryd a gweithgareddau i blant.
Bydd Eglwys y Santes Gwladys yn croesawu marchnad dan do gyda stondinau, caffi dros dro, paentio wynebau a gweithgareddau i blant o 10am tan 4pm ar ddiwrnod Ffair y Gaeaf.
Cadwch lygad allan am ddigwyddiadau a gweithgareddau arall a allai ddigwydd a chyd-ddigwydd â Ffair y Gaeaf!
Am ragor o wybodaeth, ffoniwch Ganolfan Croeso Caerffili ar 029 2088 0011 neu anfon e-bost at digwyddiadau@caerffili.gov.uk