Dewis Lleol – Murray’s

Murrays

Mae Bargod yn croesawu’r bar a bwyty, Murray’s, i’r Stryd Fawr Uchaf, gyda’u seigiau a’u coctels blasus nhw. Mae Murray’s yn dafarn deuluol, sy’n eiddo i’r gŵr a gwraig, Peter a Marilyn Banwell, ac mae tîm o 11 aelod o staff o’r Fwrdeistref Sirol yn gweithio yn y dafarn.

Ar ôl agor ym mis Mawrth 2020, nid oedd bar a bwyty Murray’s ar ei newydd wedd yn gallu agor a chroesawu’r gymuned leol oherwydd y cyfyngiadau symud a oedd ar fin digwydd. Roedden nhw’n benderfynol o ddal ati a gwnaethon nhw adnewyddu’r ail lawr ymhellach.  Mae bellach wedi agor ystafell ddigwyddiadau fawr sy’n berffaith ar gyfer priodasau, bedyddiadau a chynadleddau.

Mae Murray’s ar agor o 10am, gan gynnig bwydlen brecinio anhygoel sy’n cynnwys brecwast Cymreig a chrempogau. Mae’r bwyty hefyd yn cynnig prydau arbennig wythnosol, fel prydau wedi’u grilio bob nos Iau, cinio dydd Sul a cherddoriaeth fyw ar nos Wener a nos Sadwrn.

Am y newyddion diweddaraf a chynigion, gallwch chi ddilyn Murray’s ar gyfryngau cymdeithasol @murrays.bargoed.

Essential information

Website
Social Media
Facebook
CTA Member