Dewis Lleol – Terry’s Patisserie

Terry’s Patisserie

Mae Terry’s Patisserie yn gynhyrchydd pwdinau wedi’i leoli ym Mwrdeistref Sirol Caerffili sydd wedi ennill sawl gwobr. Sefydlodd Terry Williams y busnes yng nghegin ei chartref yn 2011 ac, erbyn hyn, mae’n gwmni teuluol sy’n arbenigo mewn cynhyrchu a chyflenwi amrywiaeth o bwdinau o safon uchel.

Dechreuodd y busnes pwdinau i gyflenwi bwyty lleol o gartref eu teulu ac, erbyn hyn, maen nhw’n cynhyrchu ac yn cyflenwi pwdinau arobryn i’r Deyrnas Unedig gyfan, gan ddarparu ar gyfer stadiwms, digwyddiadau, bwytai a gwestai mawr, yn ogystal â nifer o leoliadau mawreddog.

Roedd cyfnod cyffrous o’u blaen, gyda’r busnes yn edrych i ehangu eu tîm o gogyddion tra hyfforddedig nhw a mynd i mewn i’r farchnad defnyddwyr, gan roi cyfle i bawb fynd â’u pwdinau blasus nhw adref.

Gallwch chi ddod o hyd i bwdinau Terry’s Patisserie mewn llawer o gaffis a bwytai lleol, nid yn unig ym Mwrdeistref Sirol Caerffili, ond ledled de Cymru a’r Deyrnas Unedig.

Dilynwch eu taith nhw ar eu tudalennau cyfryngau cymdeithasol nhw:

Facebook – www.facebook.com/terrys-patisserie-ltd-121757608496860

Twitter – www.twitter.com/TPatisseries

Instagram – www.instagram.com/terryspatisserie

Essential information

Website
Social Media
Facebook
Twitter
Instagram
CTA Member