Manylion am y digwyddiad
- 4–24 Rhagfyr 2025, 12pm–7pm (dyddiau’r wythnos) / 11am–7pm (penwythnos)
- The Meadows Wildlife Park, Caerffili
- Dolen tocynnau: Operation Save Christmas
- Tudalen Facebook
Llinell stori
Tua 22:47 GMT ar 26 Rhagfyr 2024, cafodd sled Siôn Corn ei holrhain ddiwethaf ger Caerffili. Ni lwyddodd i deithio’n ôl i Begwn y Gogledd.
Mae adroddiadau cychwynnol yn awgrymu’r posibilrwydd y bu’r sled yn ddiffygiol yn yr awyr. Yn ôl llygad-dystion yn yr ardal, roedd fflach goch yn yr awyr a sŵn clychau sled yn malu. Nid oes cofnod o weld y sled ers hynny. Na chysylltiad â’r sled, chwaith. Mae Siôn Corn a’i geirw ar goll yn swyddogol.
Mae gwraig Siôn Corn bellach wedi lansio ymgyrch chwilio brys. Rydyn ni’n galw ar deuluoedd dewr i wirfoddoli ac ymuno â ni ar lawr gwlad.
Bydd y Pencadlys Chwilio yn weithredol rhwng 4 Rhagfyr a 24 Rhagfyr.
Lleoliad: The Meadows Wildlife Park
Bydd pob gwirfoddolwr yn cael ffeil achos ddigidol a Phecyn Chwilio wrth gyrraedd.
Tasg eich teulu: Dilyn y cliwiau, chwilio’r llwybr, a helpu’r coblynnod i achub y Nadolig.
Beth i’w ddisgwyl
Bydd pob gwirfoddolwr yn cael y canlynol:
- Ffeil achos ddigidol gyda’r hyn rydyn ni’n ei wybod hyd yma
- Pecyn Chwilio swyddogol wrth gyrraedd (map, cliwiau a rhagor)
- Arweiniad gan goblynnod, cymeriadau Nadoligaidd, goleuadau a synau i allu dilyn y llwybr chwilio
- Mynediad i bencadlys Ffatri Deganau argyfwng dros dro y coblynnod – lle gall plant helpu achub y Nadolig
Gwobrau ar ôl chwilio
TASG WEDI’I CHWBLHAU? Gobeithio… Ar ôl eich sesiwn chwilio, gall gwirfoddolwyr fwynhau gwobrau haeddiannol yn y Pencadlys Chwilio:
Gallwch chi ddisgwyl y canlynol:
- Diodydd poeth a lluniaeth Nadoligaidd i’ch cynhesu
- Gemau a gweithgareddau Nadoligaidd i godi’ch calon
- Ffatri Deganau dros dro sy’n cael ei rhedeg gan y coblynnod
- Ffilm Nadoligaidd i helpu pawb i gamu i hwyl yr ŵyl
- A llawer rhagor o brofiadau Nadoligaidd i helpu cadw’r ysbryd yn gryf a dangos y ffordd adref i Siôn Corn
Gwybodaeth am docynnau
Prisiau
- Oedolion (12 oed neu’n hŷn): £25
- Plant (3–11 oed): £25 – yn cynnwys anrheg gan Siôn Corn.
- Tocyn Teulu (2 oedolyn, 2 blentyn): £75
- Plant 0–2 oed: Am ddim
Slotiau cyrraedd
Dyddiau’r wythnos (4/5/11/12/17/18/19/22/23 Rhagfyr)
- Oriau agor: 12pm–7pm
- Egwyl: 3.15pm–4pm
Penwythnos (6/7/13/14/20/21 Rhagfyr)
- Oriau agor: 11am–7pm
- Dwy egwyl 30 munud o hyd:
- 1.30pm–2pm
- 4.30pm–5pm
Noswyl Nadolig (24 Rhagfyr)
- Oriau agor: 11am–3pm