Siwrne a hanner. Ffordd Cymru.

Llwybr Blas Cambria

Mae Ffordd Cambria’n daith gyfan o ogledd Cymru i lawr i’r de ar hyd asgwrn cefn mynyddig y wlad, gan redeg am 185 milltir (300km) o un arfordir i’r llall. Mae bwyd yn chwarae rhan bwysig pan rydyn ni’n adrodd hanes Cymru wrth ddatblygu teimlad cryf ac unigryw o le a denu ymwelwyr hen a newydd. Rydyn ni wedi creu Taith Flasu ryngweithiol Llwybr Blas Cambria er mwyn helpu gwella ansawdd profiad ymwelwyr a chodi proffil y bwyd a diod anhygoel ac unigryw sydd ar gael ar hyd asgwrn cefn Cymru.

Mae dros 200 o brofiadau bwyd a diod sy’n amrywio o gynhyrchwyr blasus a theithiau bwyd unigryw i farchnadoedd ffermwyr a gwyliau ffasiynol, felly mae Ffordd Cambria yn berffaith i bobl sy’n gwirioni ar fwyd, a dylai pawb gael gwybod amdani.

Map Rhyngweithiol Llwybr Blas Cambria

Essential information