Ffair y Gaeaf, Ystrad Mynach 2024

Sat 16 Nov, 9:00am - 5:00pm

Ymunwch â’r digwyddiad Facebook swyddogol!

I holi am ofod masnachu, anfonwch e-bost i digwyddiadau@caerffili.gov.uk neu ffonio 01443 866390.

Gwisgwch yn gynnes a pharatoi ar gyfer tymor y Nadolig wrth i Ffair y Gaeaf ddod i Ystrad Mynach ar ddydd Sadwrn 16 Tachwedd 2024!

Bydd Ffair y Gaeaf yn Ystrad Mynach eleni yn dod â fflach y Nadolig i ganol y dref ddydd Sadwrn, 16 Tachwedd, a bydd Cyngor Cymuned Gelli-gaer yn cynnal Groto Siôn Corn, felly peidiwch ag anghofio eich rhestr Nadolig chi!

Bydd y ffair yn rhoi cyfle i chi ddechrau ar eich siopa Nadolig yn gynnar, gyda detholiad arbennig o tua 30 stondin bwyd a chrefft, a fydd wedi’u gosod ar hyd y dref ac yn gwerthu anrhegion hardd, o addurniadau Nadolig a gemwaith i fwyd pob blasus a danteithion Nadoligaidd traddodiadol.

Bydd ychydig o reidiau ffair i blant bach ar hyd a lled canol y dref, yn ogystal â gwledd o gymeriadau Nadoligaidd yn crwydro safle’r digwyddiad i ddiddanu’r teulu cyfan. Bydd yna hefyd lwyfan cymunedol gyda pherfformiadau Nadoligaidd gan ysgolion, corau, bandiau a chantorion lleol yn helpu cael pawb yn ysbryd y Nadolig.

Yn ogystal â’r stondinau a’r adloniant, mae gan y dref ystod wych o siopau canol tref annibynnol. Cydiwch yn eich bagiau siopa chi a dewch draw i ymuno yn yr hwyl Nadoligaidd rhwng 9am a 5pm!

Bydd y ffair hefyd yn cynnal seremoni Cynnau Goleuadau Nadolig hudolus Cyngor Cymuned Gelli-gaer am 5pm.

Mae’r digwyddiad hwn AM DDIM!

Am ragor o wybodaeth, e-bostio digwyddiadau@caerffili.gov.uk neu ffonio 01443 866390.

Oes diddordeb gennych chi mewn cael stondin yn y digwyddiad hwn? Cysylltwch â digwyddiadau@caerffili.gov.uk.

Mae’r digwyddiad hwn yn cael ei drefnu gan Gyngor Bwrdeistref Sirol Caerffili a’i gynorthwyo gan Gyngor Cymuned Gelli-gaer.


Parcio a Thrafnidiaeth

Parcio

Bydd mannau parcio cyhoeddus, gan gynnwys mannau parcio i’r anabl, ar gael yn:

  • Ysgol Ferched Lewis, CF82 7WW (am ddim)
  • Maes Parcio Oakfield Street, CF82 7WX (talu ac arddangos)
  • Tesco, CF82 7DP (am ddim am 2 awr, yn gyfyngedig i gwsmeriaid Tesco yn unig)
  • Aldi, CF82 8AA (am ddim am 2 awr, yn gyfyngedig i gwsmeriaid Aldi yn unig)

Sicrhewch eich bod yn gwirio’r arwyddion ym mhob maes parcio am delerau ac amodau llawn.

Rheseli Beiciau

Gellir dod o hyd i raciau beic yn:

  • Llyfrgell Ystrad Mynach, CF82 7BB
  • Gwaelod Heol Bedwlwyn, CF82 7AD
  • Gorsaf Drenau Ystrad Mynach, CF82 7BQ
  • Tesco, CF82 7DP

Rhaglen Adloniant

Cyhoeddir rhaglen adloniant lawn yn nes at ddyddiad y digwyddiad.


Rhestr Stondinau

Cyhoeddir rhestr lawn o stondinau yn nes at ddyddiad y digwyddiad.


Hysbysiad Pwysig i Breswylwyr a Manwerthwyr – Digwyddiadau Gaeaf Cyngor Bwrdeistref Sirol Caerffili 2024


Mae Ystrad Mynach yn Dref Smart!

Archwilio’r dref cyn i chi gyrraedd a gweld beth sydd ar gael gan fusnesau lleol tra byddwch chi yn Ffair Bwyd a Chrefft y Gaeaf, Ystrad Mynach, trwy lawrlwytho’r ap VZTA Smart Towns.

Lawrlwythwch am ddim, yma.


Mae’r prosiect hwn wedi’i ariannu’n rhannol gan Lywodraeth y DU trwy Gronfa Ffyniant Gyffredin y DU.

Mae Cronfa Ffyniant Gyffredin y DU yn biler canolog i agenda Ffyniant Bro llywodraeth y DU ac yn ddarparu £2.6 biliwn o gyllid ar gyfer buddsoddiad lleol erbyn mis Mawrth 2025. Nod y Gronfa yw gwella balchder lle a chynyddu cyfleoedd bywyd ledled y DU gan fuddsoddi mewn cymunedau a lleoedd, cynorthwyo busnesau lleol, pobl a sgiliau. Am ragor o wybodaeth, ewch i https://www.gov.uk/government/publications/uk-shared-prosperity-fund-prospectus.cy.

Essential information

Address
Address
Bedwlwyn Road and Oakfield Street, Ystrad Mynach, CF82 7AB
CF82 7AA
Contact Name
Contact
Tîm Digwyddiadau CBSC
Phone
Phone
01443 866390
Website
Social Media
Facebook
Twitter
Instagram
Charges
Charges
AM DDIM
Pet Friendly
Pet Friendly

You may also be interested in: