Gellihaf House

Lle hyfryd cudd yng Nghymoedd Cymru wedi’i ddyfarnu â ‘Chymeradwyaeth Uchel’ yng Ngwobrau Bywyd Caerdydd.

Mae llety gwely a brecwast sy’n cael ei redeg gan deulu, sy’n llawn hanes, ac wedi’i guddio yng Nghymoedd Cymru wedi ennill y teitl ‘Cymeradwyaeth Uchel’ yn y categori Busnes Newydd yng Ngwobrau Bywyd Caerdydd.

Wedi’i gwblhau ym 1931 a’i brynu yn 2017 gan y perchnogion Howard a Cath, mae tŷ Gellihaf yn eiliad mewn hanes sydd wedi’i ddal yn berffaith.

Wedi’i leoli yng Nghoed Duon, roedd ffawd mwy na heb yn sicrhau mai Howard a Cath fyddai’n berchen ar y tŷ. Roedd Howard yn lleol i’r ardal ac yn gyfarwydd â’r tŷ. Fe adawodd Cymru i ymuno â’r fyddin heb unrhyw fwriad i ddychwelyd. Ond wedi 32 o flynyddoedd o wasanaeth milwrol, dyna’n union a wnaeth. Ar ôl cwrdd â’i wraig Cath, gwelsant fod y tŷ ar y farchnad ac yna syrthio ar unwaith mewn cariad ag ef. Fel cyd-ddigwyddiad, yn ddiweddarach daeth Cath i ddarganfod ei bod hi yn perthyn i’r teulu oedd yn berchen ar y tŷ bron i 80 mlynedd yn ôl.

Mae ei arddull yn adlewyrchu’r mudiad ‘Celf a Chrefft’ ac mae Howard a Cath wedi adfer pob rhan o’r eiddo yn ôl i’w ogoniant blaenorol, gan ychwanegu cyffyrddiadau modern fel ystafelloedd ymolchi llawn a moethus yn yr ystafelloedd gwadd.

Gall gwesteion y faenor ddisgwyl brecwast gwych sy’n defnyddio cynnyrch lleol ac mae Gellihaf hefyd yn cynnig te prynhawn sydd wedi dod yn enwog am ei danteithion melys cartref.

Mae Howard a Cath wedi ymrwymo eu hunain i adfer yr eiddo hardd hwn, ac adlewyrchir eu gwaith caled gan eu personoliaethau heintus. Cewch groeso twymgalon wrth gyrraedd, ac yna cewch eich trochi’n llwyr yn yr awyrgylch a grëir gan eich dau westai.

Am yr holl resymau hyn, mae’r cwpl wedi cael eu cydnabod yng ngwobrau Bywyd Caerdydd 2019, ac mae Tŷ Gellihaf hefyd wedi’i restru yn y ‘Great Little Places Guide’ a grëwyd gan ‘Welsh Rarebits’.

P’un a ydych chi’n feiciwr brwd, yn gerddwr neu’n syml yn chwilio am enciliad – mae gan Dŷ Gellihaf bopeth sydd ei angen arnoch.

Essential information

Address
Address
Gellihaf House, Gellihaf Rd, Fleur-de-lis, Blackwood
NP12 2QE
Contact Name
Contact
Catherine Smith
Phone
Phone
07905852266, 01443 831518
Website
Social Media
Facebook
Charges
Charges
From £120 pn
CTA Member

You may also be interested in: