Gŵyl Caws Bach Caerffili

September 3, 10:00am - September 4, 5:00pm

Mae tîm digwyddiadau Caerffili yn falch o gyhoeddi, er nad oes modd cynnal Gŵyl Caws Mawr Caerffili yn ei fformat arferol, oherwydd gwaith datblygu sy’n digwydd yng Nghastell Caerffili, bydd digwyddiad amgen yn cael ei gynnal yn 2022, sef Gŵyl Caws Bach Caerffili!

 

Ar 3 a 4 Medi, bydd Gŵyl Caws Bach Caerffili yn digwydd yng nghanol tref Caerffili ar ffurf digwyddiad cerdd gyda nifer o ardaloedd cerdd ar hyd Cardiff Road a Chanolfan Siopa Cwrt y Castell, yn ogystal â phrif lwyfan ym Maes Parcio’r Twyn. Bydd y digwyddiad yn gartref i gerddorion lleol a phrif gerddorion ynghyd â nifer o stondinau bwyd a diod. Bydd gweithdai cerddoriaeth, sesiynau crefft a reidiau ffair bach i’r plant hefyd.

 

Cadwch lygad yn agored am ddiweddariadau pellach!

Ar gyfer pob ymholiad am y digwyddiad, e-bostiwch digwyddiadau@caerffili.gov.uk


Mae’r prosiect hwn wedi’i ariannu’n rhannol gan Lywodraeth y DU trwy Gronfa Ffyniant Gyffredin y DU.

Mae Cronfa Ffyniant Gyffredin y DU yn biler canolog i agenda Ffyniant Bro llywodraeth y DU ac yn ddarparu £2.6 biliwn o gyllid ar gyfer buddsoddiad lleol erbyn mis Mawrth 2025. Nod y Gronfa yw gwella balchder lle a chynyddu cyfleoedd bywyd ledled y DU gan fuddsoddi mewn cymunedau a lleoedd, cynorthwyo busnesau lleol, pobl a sgiliau. Am ragor o wybodaeth, ewch i https://www.gov.uk/government/publications/uk-shared-prosperity-fund-prospectus.cy


Digwyddiadau 2022

Digwyddiadau 2022- Rhaglen Gerddoriaeth

Y Caws Bach – Dydd Sadwrn 3 Medi

Parcio

GWYBODAETH AM Y DIGWYDDIAD A CHAU FFYRDD

Essential information

Contact Name
Contact
Events Team

You may also be interested in: