GŴYL FWYD CAERFFILI

May 7, 9:00am - May 7, 5:00pm

GŴYL FWYD CAERFFILI

Dydd Sadwrn 7 Mai 2022 – 9am-5pm

 

Llinell wybodaeth: 029 2088 0011

Mae Gŵyl Fwyd Caerffili wedi bod yn ddigwyddiad blynyddol yng nghanol tref Caerffili ers nifer o flynyddoedd ac mae’n cael ei chynnal rhwng 9am a 5pm ddydd Sadwrn 7 Mai. Yn dilyn seibiant o 2 flynedd oherwydd COVID-19, mae’r ŵyl bellach yn ôl mewn modd nerthol iawn ar gyfer 2022!

Gall ymwelwyr grwydro drwy’r stondinau niferus o ben Cardiff Road i Faes Parcio’r Twyn, gan fwynhau golygfa ysblennydd Castell Caerffili godidog o’r 13eg ganrif sydd wedi’i leoli wrth galon y digwyddiad. Bydd tua 70 o stondinau bwyd a chrefft ar hyd y strydoedd gan greu bwrlwm o weithgarwch.

Mae canol y dref yn cael ei drawsnewid yn farchnad sy’n llawn dop o ddanteithion coginiol; mae’n baradwys i’r rhai sy’n dwlu ar fwyd gyda nifer fawr o stondinau bwyd a diod i demtio blasbwyntiau ymwelwyr gydag aroglau blasus a chynnyrch sy’n tynnu dŵr o’r dannedd.

Mae rhaglen o arddangosiadau coginio wedi’i chynllunio drwy gydol y dydd ac mae’r digwyddiad yn ymuno â’r marchnadoedd misol sefydledig sy’n cael eu cynnal yng nghanol y dref. Mae Marchnad y Crefftwyr yng Nghanolfan Gymunedol y Twyn, Marchnad Fwyd a Chrefft Canolfan Siopa Cwrt y Castell a ffair grefftau ger y Senotaff gan Craft Legs yn dod â hyd yn oed mwy o amrywiaeth, gan roi hwb i gyfanswm y stondinau i dros 130 o fasnachwyr bwyd, diod a chrefftau o ansawdd uchel!

Bydd diddanwyr stryd yn crwydro’r ŵyl drwy’r dydd i ddiddanu pawb a bydd detholiad bach o reidiau ffair i blant i ddiddanu’r rhai bach.

Mae gan ganol y dref ddewis hyfryd o siopau annibynnol gyda syniadau ar gyfer anrhegion trawiadol, ac mae hefyd nifer o siopau’r stryd fawr. Mae Caerffili yn cynnig amrywiaeth eang o leoliadau bwyta allan ledled canol y dref, gan gynnwys caffis, bariau a bwytai, felly, #DewisLleol a chefnogi canol eich tref leol chi.

Bydd y digwyddiad yn cael ei gynnal yn Cardiff Road, Twyn Road, Castle Street (tua’r gogledd yn unig) a maes parcio’r Twyn, lle bydd y ffyrdd ar gau rhwng 9pm nos Wener 6 Mai a 9pm nos Sadwrn 7 Mai.

I holi am ofod masnachu, anfonwch e-bost i digwyddiadau@caerffili.gov.uk

Am ragor o wybodaeth am yr ŵyl, gan gynnwys y rhaglen arddangosiadau coginio, y rhaglen adloniant, stondinau a fydd yn bresennol a’r ffyrdd a fydd ar gau, ewch i www.caerphillyfoodfestival.co.uk/cy/ neu www.visitcaerphilly.com/cy/events/

 

Digwyddiadau 2022

Essential information

Contact Name
Contact
Events Team
Email
Email Address
events@caerphilly.gov.uk
Phone
Phone
029 2088 0011
Website
Social Media
Facebook

Downloads

Gŵyl Fwyd Caerffili Map Parcio >

Digwyddiadau 2022 >

CTA Member

You may also be interested in: