Ar dydd Sadwrn 31 Awst a dydd Sul 1 Medi, bydd Gŵyl y Caws Bach Caerffili yn digwydd yng nghanol tref Caerffili ar ffurf digwyddiad cerdd gyda nifer o ardaloedd cerdd ar hyd Cardiff Road a Chanolfan Siopa Cwrt y Castell, yn ogystal â phrif lwyfan ym Maes Parcio’r Twyn. Bydd y digwyddiad yn gartref i gerddorion lleol a phrif gerddorion ynghyd â nifer o stondinau bwyd a diod. Bydd gweithdai cerddoriaeth, sesiynau crefft a reidiau ffair bach i’r plant hefyd.
Am ragor o wybodaeth am Ŵyl y Caws Bach, ewch i: www.caerffilicawsmawr.co.uk
/ www.facebook.com/TheLittleCheeseCaerphilly
Ar gyfer pob ymholiad am y digwyddiad, e-bostiwch digwyddiadau@caerffili.gov.uk
Cliciwch ar y llun isod am fersiwn PDF o fap parcio Caws Bach.
Cyhoeddir rhestr lawn o stondinau yn nes at ddyddiad y digwyddiad.
Cyhoeddir rhaglen gerddoriaeth lawn yn nes at ddyddiad y digwyddiad.
Cyhoeddir rhaglen adloniant lawn yn nes at ddyddiad y digwyddiad.
Mae Caerffili yn Dref Smart!
Archwilio’r dref cyn i chi gyrraedd a gweld beth sydd ar gael gan fusnesau lleol tra byddwch chi yng Ngŵyl y Caws Bach, trwy lawrlwytho’r ap VZTA Smart Towns.
Lawrlwythwch am ddim, yma – bit.ly/3WfRG0J
Mae’r prosiect hwn ei gyllido’n rhannol gan Lywodraeth y DU drwy Gronfa Ffyniant Gyffredin y DU.
Mae Cronfa Ffyniant Gyffredin y DU yn biler canolog i agenda Ffyniant Bro llywodraeth y DU ac yn ddarparu £2.6 biliwn o gyllid ar gyfer buddsoddiad lleol erbyn mis Mawrth 2025. Nod y Gronfa yw gwella balchder lle a chynyddu cyfleoedd bywyd ledled y DU gan fuddsoddi mewn cymunedau a lleoedd, cynorthwyo busnesau lleol, pobl a sgiliau. Am ragor o wybodaeth, ewch i https://www.gov.uk/government/publications/uk-shared-prosperity-fund-prospectus.cy.