Y Lord Nelson Inn yw un o’r adeiladau hynaf yn Nelson. Mae wedi’i addurno’n chwaethus ac yn cynnig llwyth o gilfachau a chorneli a lleoedd tân sy’n denu pobl i ddod i mewn am sgwrs, diod neu fwyd.
Mae mewn lleoliad da ar gyfer ymweld ag atyniadau fel Llancaiach Fawr, Parc Beicio Cymru, y Ganolfan Ddringo a Bannau Brycheiniog. Mae wedi bod yn eiddo preifat a balch ers 14 o flynyddoedd. Mae peidio â bod yn dafarn gadwyn neu’n dafarn sydd ynghlwm wrth fragdy yn bwysig iawn i ni ac rydyn ni i gyd yn gweithio gyda’n gilydd fel un teulu mawr, hapus. Yn ogystal â chael enw da gyda’r gymuned leol, mae’n mynd y tu hwnt i bentref Nelson gyda llawer o bobl yn aml yn teithio pellteroedd na fyddech chi’n eu dychmygu.
Gweini bwyd a bodloni cwsmeriaid mewn lleoliad hamddenol yw’r hyn rydyn ni’n ei wneud orau. Dyluniwyd ein bwydlen i gynnig dewis eang o ffefrynnau, gyda phob un o’n prydau wedi’u paratoi fesul archeb. Ein griliau yw ein harbenigedd, gyda steciau sydd byth yn siomi. Mae ein cogydd yn fwy na hapus i dderbyn ceisiadau unigol a bydd bob amser yn neilltuo amser i sicrhau bod popeth yn berffaith. Ni fyddwn ni byth yn gweini bwyd a gynhyrchir mewn ffatri ac rydyn ni’n cynnig bwydlen lysieuol helaeth. Rydyn ni’n ceisio dod o hyd i gynhyrchion yn lleol fel ein bod ni i gyd yn cefnogi ein gilydd.
Mae ein cwsmeriaid yn aml yn dychwelyd ac yn dod yn ‘ffrindiau’ i ni, ac rydyn ni’n falch o fod yn fusnes sy’n canolbwyntio ar y cwsmer. Mae croeso i bartïon mawr a theuluoedd, ac rydyn ni’n gyfeillgar i gŵn (bisgedi cŵn bob amser wrth law!).