Os ydych eisiau chwerthin yn ddi-stop, yna archebwch eich seddi ar gyfer pantomeim llawn hwyl eleni gan Rainbow Valley Productions. Os yw’n wir mai chwerthin yw’r feddyginiaeth orau, yna dylid sicrhau bod y cynhyrchiad hwn ar gael ar y Gwasanaethu Iechyd Gwladol a’i weini ar lwy sgleiniog o leiaf ddwywaith y dydd.
Rhwng y jôcs a’r triciau, chwarae â geiriau ffraeth a chomedi gwirion, bydd hefyd digon o ganu, dawnsio, rhamant, hud, dirgelwch a chyffro i ddifyrru cynulleidfaoedd o bob oed.
Mae amserau’r sioe a thocynnau ar gael o swyddfa docynnau’r lleoliad ar 01495 227206 neu drwy’r wefan www.blackwoodminersinstitute.com.. Mae pris tocynnau rhwng £10.00 – £19.50 yn dibynnu ar ddyddiad/amser y cynhyrchiad.
Dydd Gwener 6 Rhagfyr – Dydd Llun 30 Rhagfyr