Gwelson nhw’r safle hardd tua diwedd 2018 a chwympo mewn cariad â’i dawelwch a’i olygfeydd syfrdanol dros Gwm Ebwy. Maen nhw’n hoffi cysylltu â chefn gwlad naturiol ac annog teithwyr ac ymwelwyr i wneud yr un peth mewn ffordd sy’n amgylcheddol gynaliadwy.
Eu breuddwyd oedd adeiladu maes gwersylla bach ar ochr y bryn uwchlaw ardal Crosskeys, lle gallwch chi brofi buddion gwyliau yn yr awyr agored, golygfeydd syfrdanol dros y cymoedd, gyda chysuron cartref fel to sicr uwch eich pennau, clydwch stôf sy’n llosgi pren, cyfleusterau coginio dan do ac yn yr awyr agored ac ystafell ymolchi en-suite.
Gyda thoiledau sy’n compostio, ynni solar a gwynt, dŵr o ffynonellau naturiol ac ymrwymiad digyfaddawd i ddefnyddio cynhyrchion golchi a glanhau sy’n ddiogel yn ecolegol, bydd y Podiau Eco pren a’ch gwyliau gyda nhw yn mynd â chi yn ôl i natur yn y ffyrdd mwyaf cyfeillgar a thawel.
Wedi’i leoli ychydig filltiroedd o Gasnewydd, gyda Chaerdydd i’r de a Bannau Brycheiniog i’r gogledd, hwn yw’r safle perffaith i chi archwilio De Cymru a mwynhau cerdded, beicio mynydd, marchogaeth, mannau twristiaeth lleol neu ailgysylltu â’r amgylchedd naturiol a mwynhau’r golygfeydd unigryw. Beth am ddod â’ch ci i gwrdd â’n cathod a’n ci preswyl?