Bydd Bargod yn dod yn fyw ddydd Sadwrn 9 Rhagfyr, wrth i’r dref gynnal ei ffair Nadoligaidd flynyddol.
Bydd stondinau Nadoligaidd, adloniant a reidiau ffair yn dod â’r fflach Nadoligaidd ychwanegol hwnnw i’r dref, gan gynnig gwledd go iawn i drigolion lleol.
Bydd Cyngor Tref Bargod yn cynorthwyo’r digwyddiad gydag ymddangosiad gan Siôn Corn ac ychydig o adloniant Nadoligaidd hwyliog.
Mae gan ganol tref Bargod ystod fendigedig o siopau annibynnol a brandiau’r stryd fawr hefyd, sy’n rhoi cyfle i chi ddechrau ar eich siopa Nadolig. Profwch dref fach sydd â llawer i’w gynnig!
Mae Ffair Bwyd a Chrefft y Gaeaf ym Margod AM DDIM!
Am ragor o wybodaeth, neu e-bostio digwyddiadau@caerffili.gov.uk
Oes diddordeb gennych chi mewn cael stondin yn y digwyddiad hwn? Cysylltwch â digwyddiadau@caerffili.gov.uk
Mae’r digwyddiad hwn yn cael ei drefnu gan Gyngor Bwrdeistref Sirol Caerffili a’i gynorthwyo gan Gyngor Tref Bargod.