Gorymdaith Llusernau Cerddoriaeth a Golau Bargod 2023

December 9, 5:00pm - December 9, 6:00pm

Ymunwch â’r digwyddiad Facebook swyddogol, yma.

Dathlwch y Nadolig a helpu ein rhaglen o ddigwyddiadau 2023 ddod i ben mewn steil gyda Gorymdaith Cerddoriaeth a Lusernau’r Goleuni NEWYDD SBON yng Nghanol Tref Bargod ddydd Sadwrn 9 Rhagfyr – ochr yn ochr â Ffair Bwyd a Chrefft y Gaeaf Bargod!

Does dim cost i gymryd rhan yn yr orymdaith a bydd yn digwydd o 5pm. Mae’r digwyddiad hwn yn cael ei ariannu ar y cyd gan Gyngor Bwrdeistref Sirol Caerffili a Chyngor Tref Bargod, a’i drefnu gan Gyngor Bwrdeistref Sirol Caerffili.

Cofiwch ddod draw i’n Gweithdai Gwneud Llusernau Bargod sy’n RHAD AC AM DDIM yn Neuadd Eglwys Santes Gwladys ddydd Sadwrn 25 Tachwedd a dydd Sadwrn 2 Rhagfyr a gwneud eich llusernau moethus eich hun i baratoi ar gyfer yr orymdaith!
(Sylwer: NID yw mynychu’r gweithdai yn ofynnol i gymryd rhan yn yr orymdaith.)


Map yr orymdaith

Bydd yr Orymdaith Lusernau Cerddoriaeth a Goleuni yn dechrau ym maes parcio’r Emporium, cyn mynd ar hyd stryd fawr Bargod, a gorffen yn Hanbury Square!


Hysbysiad Pwysig i Breswylwyr a Manwerthwyr

Cliciwch ar y delweddau isod i weld copi llawn o’r Hysbysiad Preswylwyr a Manwerthwyr.

 

 

 

 

 

 

 

 

 

 

 

 

 


Mae’r prosiect hwn wedi’i ariannu’n rhannol gan Lywodraeth y DU trwy Gronfa Ffyniant Gyffredin y DU.

Mae Cronfa Ffyniant Gyffredin y DU yn biler canolog i agenda Ffyniant Bro llywodraeth y DU ac yn ddarparu £2.6 biliwn o gyllid ar gyfer buddsoddiad lleol erbyn mis Mawrth 2025. Nod y Gronfa yw gwella balchder lle a chynyddu cyfleoedd bywyd ledled y DU gan fuddsoddi mewn cymunedau a lleoedd, cynorthwyo busnesau lleol, pobl a sgiliau. Am ragor o wybodaeth, ewch i https://www.gov.uk/government/publications/uk-shared-prosperity-fund-prospectus.cy

Essential information

Address
Address
Canol Tref Bargod
CF81 8QT
Contact Name
Contact
Tîm Digwyddiadau CBSC
Phone
Phone
029 2088 0011
Charges
Charges
AM DDIM

You may also be interested in: