Mae gan yr eiddo ddreif preifat, lolfa/ystafell fwyta â drysau patio sy’n arwain i ardd gefn gaeëdig. Mae cegin gyflawn â lle brecwast, sy’n cynnwys bwrdd a mainc.
Hefyd ar y llawr gwaelod mae ystafell gotiau a thŷ bach. Ar y llawr cyntaf, mae tair ystafell wely: ystafell wely 1 yw’r brif ystafell wely â gwely dwbl a digon o le storio; mae ystafell wely 2 yn fach, ond yn glyd, â gwely dwbl, byrddau wrth ochrau’r gwely, a chwpwrdd dillad; mae ystafell wely 3 yn cynnwys gwely sengl, cwpwrdd dillad, a bwrdd wrth ochr y gwely. Hefyd ar y llawr cyntaf mae ystafell gawod sy’n cynnwys cawod â mynedfa isel, basn golchi dwylo, a thoiled.
Oriau agor – Drwy’r flwyddyn