Fe’i leolir ar Fynydd Eglwysilan rhwng Abertridwr a Rhydfelen, ac yn gyfagos i Ganolfan Gweithgareddau a Beicio Cwad Cwm Taf. Mae’r caffi, sydd ar agor yn ystod yr wythnos a’r penwythnos rhwng 10.00am a 4.00pm, yn darparu’n bennaf ar gyfer cwsmeriaid y Ganolfan Gweithgareddau ond, gan ei fod dim ond hanner milltir uwchlaw llwybr Taith Taf, dyma’r lle delfrydol i orffwys a chael bwyd nid yn unig ar gyfer cerddwyr a beicwyr sy’n defnyddio’r llwybr Taith Taf ond hefyd ar gyfer unigolion a theuluoedd sy’n defnyddio Mynydd Eglwysilan ar gyfer ymarfer corff a gweithgareddau hamdden.
Yn ogystal, mae gan y caffi le eistedd awyr agored ar gyfer 30 o bobl gyda golygfeydd dros Gwm Rhondda ac, ar ddiwrnod braf, Gaerdydd. Mae Cwrt y Gegin yn darparu dewis o fwyd (poeth ac oer) sydd wedi’i baratoi’n ffres a diodydd di-alcohol, gyda brecwast wedi’i goginio, byrbrydau a phecynnau cinio y gellir eu harchebu sy’n boblogaidd iawn. Gyda lle eistedd awyr agored, mae hefyd yn lleoliad poblogaidd ar gyfer partïon pen-blwydd plant. Er nad oes angen archebu pecynnau cinio na lluniaeth arall ymlaen llaw, mae profiad wedi dangos gall hynny osgoi aros yn hir yn ystod cyfnodau prysur, felly mae i’w argymell. Yn yr un modd, argymhellir cadw lle ymlaen llaw os ydych chi’n bwriadu ymweld â’r caffi a hoffech chi sicrhau bwrdd yn y lle eistedd awyr agored. Anfonwch unrhyw ymholiadau am y caffi at Maggie ar maggie.m.smith@aol.com