Ffair Bwyd a Chrefft y Gaeaf yng Nghaerffili yw’r lle perffaith i chi deimlo ysbryd y Nadolig. Profwch olygfeydd, seiniau ac arogleuon y dref a’r castell wrth baratoi ar gyfer y Nadolig, gyda bwyd stryd blasus, arogl gwin brwd, theatr stryd gyffrous a dros 60 o stondinau bwyd, crefft a rhoddion, gan gynnwys atyniadau ffair i ddiddanu’r holl deulu!
Yn rhan o’r digwyddiad hudolus hwn mae’r Orymdaith Lusernau Afon y Goleuni sy’n dechrau am 6.30pm ac yn gorffen gydag Arddangosfa Tân Gwyllt am 7.15pm!
Wrth ymweld â Ffair Bwyd a Chrefft y Gaeaf yng Nghaerffili, cofiwch fynd i’r Farchnad Ffermwyr boblogaidd yng Nghanolfan Gymunedol y Twyn, Ffair Grefftau Crafty Legs wrth y Senotaff, a Marchnad Crefft a Bwyd Cwrt y Castell yng Nghanolfan Siopa Cwrt y Castell. Mae’r holl farchnadoedd hyn yn ategu Ffair Bwyd a Chrefft y Gaeaf, Caerffili, a’r cymysgedd o siopau annibynnol a siopau’r stryd fawr sydd yn y dref.
Mae’r digwyddiad hwn AM DDIM! Mae ffioedd mynediad arferol yn berthnasol i’r castell.
Am ragor o wybodaeth, neu e-bostio digwyddiadau@caerffili.gov.uk
Oes diddordeb gennych chi mewn cael stondin yn y digwyddiad hwn? Cysylltwch â digwyddiadau@caerffili.gov.uk
Mae Cyngor Tref Caerffili yn cynorthwyo’r digwyddiad hwn.