Mae’n bleser gan Gyngor Bwrdeistref Sirol Caerffili gyflwyno ei amserlen ddigwyddiadau ar gyfer 2026, sy’n cynnwys amrywiaeth eang o ddigwyddiadau difyr sydd wedi’u cynllunio i ddarparu rhywbeth i bawb.
Fe wnaeth rhaglen ddigwyddiadau 2025 ddenu dros 66,000 o ymwelwyr i ganol trefi allweddol, ac mae disgwyl i 2026 fod yn flwyddyn llawn dop arall, gyda detholiad gwych o ddigwyddiadau wedi’u trefnu yng nghanol y pum prif dref – gan gynnwys partïon traeth, ffeiriau’r gwanwyn, marchnadoedd Nadolig a gwyliau cerddoriaeth.
Mae manteision digwyddiadau o’r fath i ganol trefi a busnesau lleol yn enfawr, gan ddod â rhagor o ymwelwyr a rhagor o wariant, yn ogystal â chodi proffil y busnesau a’r trefi.
Dywedodd y Cynghorydd Jamie Pritchard, Arweinydd y Cyngor,
“Mae rhaglen ddigwyddiadau domestig gref yn bwysig i ddenu pobl i’r Fwrdeistref Sirol ac i ddarparu mwynhad i’n trigolion ein hunain. Mae digwyddiadau ein Bwrdeistref Sirol yn denu nifer o bobl ac yn boblogaidd. Ond mae dangos bod Bwrdeistref Sirol Caerffili yn ‘lle i gynnal digwyddiadau’, yn denu digwyddiadau’r Deyrnas Unedig, fel Tour of Britain, sydd wedi bod yn llwyddiannus iawn. Rydyn ni’n annog digwyddiadau mwy drwy’r amser.”
I wneud cais am ofod masnach yn unrhyw un neu ragor o’r digwyddiadau eleni, llenwch y ffurflen gais ar-lein.
Os hoffech chi gymryd rhan drwy noddi unrhyw un neu ragor o’r digwyddiadau eleni, e-bostiwch digwyddiadau@caerffili.gov.uk neu ffonio 01443 866390 am ragor o wybodaeth.
Am ragor o wybodaeth a diweddariadau rheolaidd am ddigwyddiadau, ewch i www.visitcaerphilly.com a dilyn Croeso Caerffili ar Facebook, Instagram ac X/Twitter.
Cadwch y dyddiadau er mwyn bod yn rhan o’r flwyddyn anhygoel sydd i ddod!
| TEITL | DYDDIAD | LLEOLIAD |
| Yr Ŵyl Fawr Gymreig | Dydd Sadwrn 28 Chwefror 2026 | Canol tref Coed Duon NP12 1AB |
| Ffair y Gwanwyn, Bargod | Dydd Sadwrn 21 Mawrth 2026 | Canol tref Bargod CF81 8QT |
| Gŵyl Bwyd, Diod a Cherddoriaeth Ystrad Mynach | Dydd Sadwrn 28 Mawrth 2026 | Canol tref Ystrad Mynach CF82 7AB |
| Gŵyl Bwyd a Diod Caerffili | Dydd Sadwrn 18 Ebrill 2026 | Canol tref Caerffili CF83 1JL |
| Ffair Fai Bargod | Dydd Sadwrn 9 Mai 2026 | Canol tref Bargod CF81 8QT |
| Rasys 10 cilomedr a 2 gilomedr Caerffili Bryn Meadows | Dydd Sul 10 Mai 2026 | Caerffili CF83 1EF |
| Gŵyl Fwyd Traeth Rhisga | Dydd Sadwrn 6 Mehefin a dydd Sul 7 Mehefin 2026 | Parc Tredegar, canol tref Rhisga NP11 6BW |
| Pride Caerffili | Dydd Sadwrn 4 Gorffennaf 2026 | Canol tref Caerffili CF83 1JL |
| Gŵyl Gerddoriaeth yr Haf, Bargod | Dydd Sadwrn 11 Gorffennaf 2026 | Canol tref Bargod CF81 8QT |
| Parti Traeth Coed Duon | Dydd Sadwrn 18 Gorffennaf 2026 | Canol tref Coed Duon NP12 1AB |
| Gŵyl Caws Caerffili | Dydd Sadwrn 29 Awst a dydd Sul 30 Awst 2026 | Canol tref Caerffili CF83 1JL |
| Gweithdai Gwneud Llusernau Ystrad Mynach | Dydd Sadwrn 31 Hydref a dydd Sadwrn 7 Tachwedd 2026 | Lleoliad i’w gadarnhau |
| Gweithdai Gwneud Llusernau Bargod | Dydd Sadwrn 7 Tachwedd a dydd Sadwrn 14 Tachwedd 2026 | Lleoliad i’w gadarnhau |
| Gweithdai Gwneud Llusernau Caerffili | Dydd Sadwrn 7 Tachwedd a dydd Sadwrn 14 Tachwedd 2026 | Lleoliad i’w gadarnhau |
| Gweithdai Gwneud Llusernau Rhisga | Dydd Sadwrn 14 Tachwedd a dydd Sadwrn 21 Tachwedd 2026 | Lleoliad i’w gadarnhau |
| Gweithdai Gwneud Llusernau Coed Duon | Dydd Sadwrn 21 Tachwedd a dydd Sadwrn 28 Tachwedd 2026 | Lleoliad i’w gadarnhau |
| Ffair y Gaeaf, Ystrad Mynach | Dydd Sadwrn 7 Tachwedd 2026 | Canol tref Ystrad Mynach CF82 7AB |
| Cynnau goleuadau Nadolig Ystrad Mynach a Gorymdaith Lusernau Hetiau Siôn Corn gyda Cherddoriaeth a Goleuni | ||
| Ffair y Gaeaf, Bargod | Dydd Sadwrn 14 Tachwedd 2026 | Canol tref Bargod CF81 8QT |
| Cynnau goleuadau Nadolig Bargod, yn cynnwys Gorymdaith Lusernau Cerddoriaeth a Goleuni | ||
| Ffair Nadolig Fach Caerffili | Dydd Gwener 20 Tachwedd 2026 | Canol tref Caerffili CF83 1JL |
| Cynnau goleuadau Nadolig Caerffili a Sioe Tân Gwyllt, yn cynnwys Gorymdaith Lusernau Afon y Goleuni | ||
| Marchnad Nadolig Caerffili | Dydd Sadwrn 21 Tachwedd 2026 | Canol tref Caerffili CF83 1JL |
| Marchnad Nadolig Coed Duon | Dydd Sadwrn 28 Tachwedd 2026 | Canol tref Coed Duon NP12 1AB |