Rhaglen Ddigwyddiadau 2025

Dyma hi – y rhaglen ddigwyddiadau gyflawn ar gyfer 2025!

Bydd rhagor o wybodaeth am bob digwyddiad yn dod yn fuan ond, am y tro, cadwch y dyddiadau a dechrau edrych ymlaen!

Sylwch: gall yr holl wybodaeth newid.


Dydd Sadwrn 8 Mawrth 2025

Ffair y Gwanwyn, Coed Duon

Beth am ddianc rhag diflastod y gaeaf ac ymuno â ni wrth i ni ddechrau ein rhaglen ddigwyddiadau ar gyfer 2025! Yn rhan o’n digwyddiad cyntaf ni eleni, byddwn ni’n mynd i ganol tref Coed Duon ar gyfer ei Ffair y Gwanwyn flynyddol!

  • 9am-5pm
  • Stryd Fawr, canol tref Coed Duon, NP12 1AH
  • Mynediad AM DDIM
  • Croeso i gŵn

Ymunwch â’r digwyddiad swyddogol Facebook.

I holi am ofod masnachu a’r digwyddiad yn gyffredinol, anfonwch e-bost i digwyddiadau@caerffili.gov.uk neu ffonio 01443 866390.


Dydd Sadwrn 29 Mawrth 2025

Ffair y Gwanwyn, Ystrad Mynach

Dewch draw i ganol tref Ystrad Mynach a chamu i dymor y gwanwyn ar Ddydd Sadwrn 29 Mawrth gyda Ffair y Gwanwyn, Ystrad Mynach!

Gyda llwyth o stondinau bwyd a chrefft, ffair bleser, a digonedd o weithgareddau a pherfformiadau stryd, bydd rhywbeth at ddant pawb! Felly, dewch draw i gael diwrnod llawn hwyl gyda’r teulu a chael cyfle i wneud dangos cefnogaeth i fusnesau lleol!

  • 9am-5pm
  • Bedwlwyn Road ac Oakfield Street, Ystrad Mynach, CF82 7AA
  • Mynediad AM DDIM
  • Croeso i gŵn

Ymunwch â’r digwyddiad swyddogol Facebook.

I holi am ofod masnachu a’r digwyddiad yn gyffredinol, anfonwch e-bost i digwyddiadau@caerffili.gov.uk neu ffonio 01443 866390.


Dydd Sadwrn 12 Ebrill 2025

Gŵyl Bwyd a Diod, Caerffili

Mae Gŵyl Bwyd a Diod, Caerffili, wedi bod yn ddigwyddiad blynyddol yng nghanol tref Caerffili ers nifer o flynyddoedd ac mae’n cael ei chynnal rhwng 9am a 5pm ddydd Sadwrn 27 Ebrill!

  • 9am-5pm
  • Canol tref Caerffili, CF83 1JL
  • Mynediad AM DDIM
  • Croeso i gŵn

Ymunwch â’r digwyddiad swyddogol Facebook.

I holi am ofod masnachu a’r digwyddiad yn gyffredinol, anfonwch e-bost i digwyddiadau@caerffili.gov.uk neu ffonio 01443 866390.


Dydd Sadwrn 3 Mai 2025

Ffair Fai, Bargod

Mae Ffair Fai Bargod YN ÔL ar gyfer 2025!

Gydag amrywiaeth o stondinau yn llawn busnesau bach anhygoel, adloniant cyffrous a reidiau ffair ffantastig, mae Ffair Fai, Bargod, yn addo rhoi hwb mawr i Fargod!

  • 9am-5pm
  • Canol tref Bargod, CF81 8QR
  • Mynediad AM DDIM
  • Croeso i gŵn

I holi am ofod masnachu a’r digwyddiad yn gyffredinol, anfonwch e-bost i digwyddiadau@caerffili.gov.uk neu ffonio 01443 866390.


Dydd Sul 11 Mai 2025

Bryn Meadows 10 Cilomedr a 2 Cilomedr Caerffili

Cofrestrwch nawr!

Gyda disgwyl i 2,500 o redwyr o bob gallu ddod i Gaerffili o bob cwr o’r wlad i fwynhau’r digwyddiad, rydyn ni’n disgwyl i’r digwyddiad yn 2025 fod yn fwy ac yn well!

  • 8am-12pm
  • Canol tref Caerffili, CF83 1JL
  • Mae ffioedd mynediad yn dechrau o £8.50 ar gyfer 2 Cilomedr Caerffili ac £22 ar gyfer 10 Cilomedr Caerffili

I holi am y digwyddiad yn gyffredinol, anfonwch e-bost i 10Cilomedr@caerffili.gov.uk neu ffonio 01443 866390.


Dydd Sadwrn 7 – Dydd Sul 8 Mehefin 2025

Parti Traeth Rhisga

Bydd y digwyddiad deuddydd hwn yn gartref i draeth anferth yn llawn cadeiriau cynfas a theganau traeth i ddiddanu pawb. Bydd sioeau Pwnsh a Jwdi yn cael eu cynnal yn rheolaidd drwy gydol y dydd a bydd detholiad o reidiau ffair i bobl ifanc, ynghyd ag amrywiaeth o atyniadau i ddiddanu pawb!

  • 10am-4pm
  • Parc Tredegar, Rhisga, NP11 6BW
  • Mynediad AM DDIM
  • Croeso i gŵn (heblaw am ardal y traeth)

I holi am ofod masnachu a’r digwyddiad yn gyffredinol, anfonwch e-bost i digwyddiadau@caerffili.gov.uk neu ffonio 01443 866390.


Dydd Sadwrn 28 Mehefin 2025

Parti Traeth Coed Duon

Ddydd Sadwrn 13 Gorffenaf, bydd y Stryd Fawr, Coed Duon, NP12 1AH, yn cael ei thrawsnewid yn barti traeth trefol gyda digonedd o dywod, cadeiriau cynfas, a bwcedi a rhawiau i ddiddanu’r teulu cyfan.

Bydd nifer fawr o reidiau ffair yn dod â bywyd i un pen y Stryd Fawr, a bydd stondinau, atyniadau a thraeth anferth yn y pen arall! Bydd Cyngor Tref Coed Duon hefyd yn trefnu prif lwyfan gyda rhaglen adloniant lawn drwy’r dydd, a fydd yn cynnwys cantorion, bandiau a dawnswyr lleol.

  • 9am-5pm
  • Stryd Fawr, canol tref Coed Duon, NP12 1AH
  • Mynediad AM DDIM
  • Croeso i gŵn (heblaw am ardal y traeth)

I holi am ofod masnachu a’r digwyddiad yn gyffredinol, anfonwch e-bost i digwyddiadau@caerffili.gov.uk neu 01443 866390.


Dydd Sadwrn 5 Gorffennaf 2025

Pride Caerffili

Gall ymwelwyr ddisgwyl digwyddiad i’r teulu cyfan, gan gydnabod a dathlu’r cyfraniadau gan bobl LHDTC+ yn ein cymdeithas. Ar y diwrnod, bydd adloniant byw a Gorymdaith Balchder eiconig i ddathlu.

  • 12pm-7pm
  • Canol tref Caerffili, CF83 1JL
  • Mynediad AM DDIM
  • Croeso i gŵn

I holi am ofod masnachu a’r digwyddiad yn gyffredinol, anfonwch e-bost i digwyddiadau@caerffili.gov.uk.


Dydd Sadwrn 12 Gorffennaf 2025

Gŵyl Gerddoriaeth yr Haf Bargod

Canol tref Bargod fydd lleoliad cerddoriaeth gorau Bwrdeistref Sirol Caerffili ym mis Gorffennaf eleni gyda Gŵyl Gerddoriaeth yr Haf yn Bargod!

Bydd y digwyddiad newydd sbon hwn yn cynnwys prif lwyfan cerddoriaeth ar Lowry Plaza a phedair ardal cerddoriaeth stryd ledled canol y dref, gan gysylltu â The Square Royale, Murray’s a Bourton’s Live Music Café Bar i ddod â chanol y dref i gyd yn fyw!

  • 9am-7:30pm
  • Canol tref Bargod, CF81 8QR
  • Mynediad AM DDIM
  • Croeso i gŵn

I holi am ofod masnachu a’r digwyddiad yn gyffredinol, anfonwch e-bost i digwyddiadau@caerffili.gov.uk neu ffonio 01443 866390.


Dydd Sadwrn 30 – Dydd Sul 31 Awst 2025

Gŵyl Caws Caerffili

Bydd Gŵyl Caws Caerffili yn digwydd yng nghanol tref Caerffili ar ffurf digwyddiad cerdd gyda nifer o ardaloedd cerdd ar hyd Cardiff Road a Chanolfan Siopa Cwrt y Castell, yn ogystal â phrif lwyfan ym Maes Parcio’r Twyn. Bydd y digwyddiad yn gartref i gerddorion lleol a phrif gerddorion ynghyd â nifer o stondinau bwyd a diod.

  • 9am-8pm (Dydd Sadwrn)
  • 9am-5pm (Dydd Sul)
  • Canol tref Caerffili, CF83 1JL
  • Mynediad AM DDIM
  • Croeso i gŵn

I holi am ofod masnachu a’r digwyddiad yn gyffredinol, anfonwch e-bost i digwyddiadau@caerffili.gov.uk neu ffonio 01443 866390.


Dydd Sadwrn 20 Medi 2025

Gŵyl Fwyd Rhisga

Mae digwyddiad newydd sbon yn dod i ganol tref Rhisga yr haf hwn! Cadwch lygad ar y dudalen hon am ddiweddariadau a gwybodaeth, yn dod yn fuan!

  • 10am-4pm
  • Parc Tredegar, NP11 6BW
  • Mynediad AM DDIM
  • Croeso i gŵn

I holi am ofod masnachu a’r digwyddiad yn gyffredinol, anfonwch e-bost i digwyddiadau@caerffili.gov.uk neu ffonio 01443 866390.


Dydd Sadwrn 15 Tachwedd 2025

Ffair y Gaeaf, Ystrad Mynach

Bydd y ffair yn rhoi cyfle i chi ddechrau ar eich siopa Nadolig yn gynnar, gyda detholiad arbennig o tua 30 stondin bwyd a chrefft, a fydd wedi’u gosod ar hyd y dref ac yn gwerthu anrhegion hardd, o addurniadau Nadolig a gemwaith i fwyd pob blasus a danteithion Nadoligaidd traddodiadol.

  • 9am-5pm
  • Bedwlwyn Road ac Oakfield Street, canol tref Ystrad Mynach, CF82 7AB
  • Mynediad AM DDIM
  • Croeso i gŵn

I holi am ofod masnachu a’r digwyddiad yn gyffredinol, anfonwch e-bost i digwyddiadau@caerffili.gov.uk neu ffonio 01443 866390.


Dydd Sadwrn 15 Tachwedd 2024

Dydd Sadwrn 22 Tachwedd 2024

Gweithdai Gwneud Llusernau Bargod

Wrth i ni agosáu at dymor y Nadolig, beth am fwynhau rhywfaint o amser hwyliog i’r teulu AM DDIM a dod â’r plant i greu llusern Nadoligaidd arbennig ar gyfer Gorymdaith Lusernau Cerddoriaeth a Goleuni NEWYDD yng nghanol tref Bargod ddydd Sadwrn 7 Rhagfyr.

  • 10am-4pm
  • Neuadd Eglwys Santes Gwladys, Bargod, CF81 8RP
  • Mynediad AM DDIM

I holi am y digwyddiad yn gyffredinol, anfonwch e-bost i digwyddiadau@caerffili.gov.uk neu ffonio 01443 866390.


Dydd Sadwrn 22 – Dydd Sul 23 Tachwedd 2025

Dydd Sadwrn 29 – Dydd Sul 30 Tachwedd 2025

Gweithdai Gwneud Llusernau Afon y Goleuni

Wrth i ni agosáu at dymor y Nadolig, beth am fwynhau rhywfaint o amser hwyliog i’r teulu AM DDIM a dod â’r plant i greu llusern Nadoligaidd arbennig ar gyfer Gorymdaith Lusernau Afon y Goleuni yng nghanol tref Caerffili ddydd Sadwrn 6 Rhagfyr.

  • 10am-5pm
  • Canolfan Gymunedol y Twyn, Caerffili, CF83 1JL
  • Mynediad AM DDIM

I holi am y digwyddiad yn gyffredinol, anfonwch e-bost i digwyddiadau@caerffili.gov.uk neu ffonio 01443 866390.


Dydd Sadwrn 22 Tachwedd 2025

Ffair y Gaeaf, Coed Duon

P’un a ydych chi’n dymuno prynu anrheg Nadolig gynnar i chi eich hun neu’n chwilio am anrheg unigryw ar gyfer rhywun arbennig, gallwch grwydro o gwmpas detholiad bendigedig o stondinau bwyd a chrefft, yn ogystal â’r ystod wych o siopau annibynnol a brandiau’r stryd fawr. Mae’r digwyddiad hwn yn rhoi cyfle delfrydol i chi gychwyn ar eich siopa Nadolig chi.

Bydd digonedd o adloniant i’r teulu cyfan gyda dewis eang o reidiau ffair, yn ogystal â chymeriadau stryd a sioeau stryd Nadoligaidd! Bydd Cyngor Tref Coed Duon yn cynorthwyo’r digwyddiad gyda phrif lwyfan dan ei sang gyda grwpiau, dawnswyr a chantorion lleol i chi deimlo ysbryd yr ŵyl.

  • 9am-5pm
  • Stryd Fawr, canol tref Coed Duon, NP12 1AH
  • Mynediad AM DDIM
  • Croeso i gŵn

I holi am ofod masnachu a’r digwyddiad yn gyffredinol, anfonwch e-bost i digwyddiadau@caerffili.gov.uk neu ffonio 01443 866390.


Dydd Sadwrn 29 Tachwedd 2025

Ffair y Gaeaf, Bargod, yn cynnwys Gorymdaith Lusernau Cerddoriaeth a Goleuni

Bydd Bargod yn dod yn fyw ddydd Sadwrn 29 Tachwedd, wrth i’r dref gynnal ei ffair Nadoligaidd flynyddol. Bydd stondinau Nadoligaidd, adloniant a reidiau ffair yn dod â’r fflach Nadoligaidd ychwanegol hwnnw i’r dref, gan gynnig gwledd go iawn i drigolion lleol.

Bydd Cyngor Tref Bargod yn cynorthwyo’r digwyddiad gyda ychydig o adloniant Nadoligaidd hwyliog.

  • Amseroedd digwyddiadau:
    • 9am-6pm (Ffair y Gaeaf)
    • 5pm (Gorymdaith Lusernau Cerddoriaeth a Goleuni)
  • Canol tref Bargod, CF81 8QR
  • Mynediad AM DDIM
  • Croeso i gŵn

I holi am ofod masnachu a’r digwyddiad yn gyffredinol, anfonwch e-bost i digwyddiadau@caerffili.gov.uk neu ffonio 01443 866390.


Dydd Sadwrn 6 Rhagfyr 2025

Ffair y Gaeaf, Caerffili, yn cynnwys Gorymdaith Lusernau Afon y Goleuni ac Arddangosfa Tân Gwyllt

Ffair Bwyd a Chrefft y Gaeaf yng Nghaerffili ar ddydd Sadwrn 6 Rhagfyr yw’r lle perffaith i chi deimlo ysbryd y Nadolig. Profwch olygfeydd, seiniau ac arogleuon y dref a’r castell wrth baratoi ar gyfer y Nadolig, gyda bwyd stryd blasus, arogl gwin brwd, theatr stryd gyffrous a dros 60 o stondinau bwyd, crefft a rhoddion, gan gynnwys atyniadau ffair i ddiddanu’r holl deulu!

  • Amseroedd digwyddiadau:
    • 9am-6pm (Ffair y Gaeaf)
    • 5pm (Gorymdaith Lusernau Afon y Goleuni)
    • 5:45pm (Arddangosfa Tân Gwyllt)
  • Canol tref Caerffili, CF83 1JL
  • Mynediad AM DDIM
  • Croeso i gŵn

I holi am ofod masnachu a’r digwyddiad yn gyffredinol, anfonwch e-bost i digwyddiadau@caerffili.gov.uk neu ffonio 01443 866390.