Dyma hi – y rhaglen ddigwyddiadau gyflawn ar gyfer 2024!
Bydd rhagor o wybodaeth am bob digwyddiad yn dod yn fuan ond, am y tro, cadwch y dyddiadau a dechrau edrych ymlaen!
Sylwch: gall yr holl wybodaeth newid.
Dydd Sadwrn 23 Mawrth 2024
Ffair y Gwanwyn, Ystrad Mynach

Beth am ddianc rhag diflastod y gaeaf ac ymuno â ni wrth i ni ddechrau ein rhaglen ddigwyddiadau ar gyfer 2024! Yn rhan o’n digwyddiad cyntaf ni eleni, byddwn ni’n mynd i ganol tref Ystrad Mynach ar gyfer ei Ffair y Gwanwyn flynyddol!
- 9am-5pm
- Bedwlwyn Road ac Oakfield Street, Ystrad Mynach, CF82 7AA
- Mynediad AM DDIM
- Croeso i gŵn
Ymunwch â’r digwyddiad swyddogol Facebook.
I holi am ofod masnachu a’r digwyddiad yn gyffredinol, anfonwch e-bost i digwyddiadau@caerffili.gov.uk.
Dydd Sadwrn 13 Ebrill 2024
Ffair y Gwanwyn, Coed Duon

Dewch draw i ganol tref Coed Duon a chamu i dymor y gwanwyn ar Ddydd Sadwrn 13 Ebrill gyda Ffair y Gwanwyn, Coed Duon!
Gyda llwyth o stondinau bwyd a chrefft, ffair bleser, a digonedd o weithgareddau a pherfformiadau stryd, bydd rhywbeth at ddant pawb! Felly, dewch draw i gael diwrnod llawn hwyl gyda’r teulu a chael cyfle i wneud dangos cefnogaeth i fusnesau lleol!
- 9am-5pm
- Stryd Fawr, canol tref Coed Duon, NP12 1AH
- Mynediad AM DDIM
- Croeso i gŵn
Ymunwch â’r digwyddiad swyddogol Facebook.
I holi am ofod masnachu a’r digwyddiad yn gyffredinol, anfonwch e-bost i digwyddiadau@caerffili.gov.uk.
Dydd Sadwrn 27 Ebrill 2024
Gŵyl Bwyd a Diod, Caerffili

Mae Gŵyl Bwyd a Diod, Caerffili, wedi bod yn ddigwyddiad blynyddol yng nghanol tref Caerffili ers nifer o flynyddoedd ac mae’n cael ei chynnal rhwng 9am a 5pm ddydd Sadwrn 27 Ebrill!
- 9am-5pm
- Canol tref Caerffili, CF83 1JL
- Mynediad AM DDIM
- Croeso i gŵn
Ymunwch â’r digwyddiad swyddogol Facebook.
I holi am ofod masnachu a’r digwyddiad yn gyffredinol, anfonwch e-bost i digwyddiadau@caerffili.gov.uk.
Dydd Sadwrn 4 Mai 2024
Ffair Fai, Bargod

Ar ôl ymddangosiad cyntaf cyffrous yn 2023, mae Ffair Fai Bargod YN ÔL ar gyfer 2024!
Gydag amrywiaeth o stondinau yn llawn busnesau bach anhygoel, adloniant cyffrous a reidiau ffair ffantastig, mae Ffair Fai, Bargod, yn addo rhoi hwb mawr i Fargod!
- 9am-5pm
- Canol tref Bargod, CF81 8QR
- Mynediad AM DDIM
- Croeso i gŵn
Ymunwch â’r digwyddiad swyddogol Facebook.
I holi am ofod masnachu a’r digwyddiad yn gyffredinol, anfonwch e-bost i digwyddiadau@caerffili.gov.uk.
Dydd Sul 12 Mai 2024
Bryn Meadows 10 Cilomedr a 2 Cilomedr Caerffili

Cofrestrwch nawr!
Gyda disgwyl i 2,500 o redwyr o bob gallu ddod i Gaerffili o bob cwr o’r wlad i fwynhau’r digwyddiad, rydyn ni’n disgwyl i’r digwyddiad yn 2024 fod yn fwy ac yn well!
- 8am-12pm
- Canol tref Caerffili, CF83 1JL
- Mae ffioedd mynediad yn dechrau o £7.50 ar gyfer 2 Cilomedr Caerffili ac £20 ar gyfer 10 Cilomedr Caerffili
Ymunwch â’r digwyddiad swyddogol Facebook.
I holi am y digwyddiad yn gyffredinol, anfonwch e-bost i digwyddiadau@caerffili.gov.uk.
Dydd Sadwrn 8 – Dydd Sul 9 Mehefin 2024
Parti Traeth Rhisga

Bydd y digwyddiad deuddydd hwn yn gartref i draeth anferth yn llawn cadeiriau cynfas a theganau traeth i ddiddanu pawb. Bydd sioeau Pwnsh a Siwan yn cael eu cynnal yn rheolaidd drwy gydol y dydd a bydd detholiad o reidiau ffair i bobl ifanc, ynghyd ag amrywiaeth o atyniadau i ddiddanu pawb!
- 10am-4pm
- Parc Tredegar, Rhisga, NP11 6BX
- Mynediad AM DDIM
- Croeso i gŵn (heblaw am ardal y traeth)
I holi am ofod masnachu a’r digwyddiad yn gyffredinol, anfonwch e-bost i digwyddiadau@caerffili.gov.uk.
Dydd Sadwrn 15 Mehefin 2024
Pride Caerffili

Gall ymwelwyr ddisgwyl digwyddiad i’r teulu cyfan, gan gydnabod a dathlu’r cyfraniadau gan bobl LHDTC+ yn ein cymdeithas. Ar y diwrnod, bydd adloniant byw a Gorymdaith Balchder eiconig i ddathlu.
- 12pm-7pm
- Canol tref Caerffili, CF83 1JL
- Mynediad AM DDIM
- Croeso i gŵn
I holi am ofod masnachu a’r digwyddiad yn gyffredinol, anfonwch e-bost i digwyddiadau@caerffili.gov.uk.
Dydd Sadwrn 6 Gorffennaf 2024
Gŵyl Cerddoriaeth yr Haf Bargod

Canol tref Bargod fydd lleoliad cerddoriaeth gorau Bwrdeistref Sirol Caerffili ym mis Gorffennaf eleni gyda Gŵyl Gerddoriaeth yr Haf gyntaf un Bargod!
Bydd y digwyddiad newydd sbon hwn yn cynnwys prif lwyfan cerddoriaeth ar Lowry Plaza a phedair ardal cerddoriaeth stryd ledled canol y dref, gan gysylltu â The Square Royale, Murray’s a Bourton’s Live Music Café Bar i ddod â chanol y dref i gyd yn fyw!
- 9am-7:30pm
- Canol tref Bargod, CF81 8QR
- Mynediad AM DDIM
- Croeso i gŵn
I holi am ofod masnachu a’r digwyddiad yn gyffredinol, anfonwch e-bost i digwyddiadau@caerffili.gov.uk neu ffonio 01443 866390.
Dydd Sadwrn 13 Gorffennaf 2024
Parti Traeth Coed Duon

Ddydd Sadwrn 13 Gorffenaf, bydd y Stryd Fawr, Coed Duon, NP12 1AH, yn cael ei thrawsnewid yn barti traeth trefol gyda digonedd o dywod, cadeiriau cynfas, a bwcedi a rhawiau i ddiddanu’r teulu cyfan.
Bydd nifer fawr o reidiau ffair yn dod â bywyd i un pen y Stryd Fawr, a bydd stondinau, atyniadau a thraeth anferth yn y pen arall! Bydd Cyngor Tref Coed Duon hefyd yn trefnu prif lwyfan gyda rhaglen adloniant lawn drwy’r dydd, a fydd yn cynnwys cantorion, bandiau a dawnswyr lleol.
- 9am-5pm
- Stryd Fawr, canol tref Coed Duon, NP12 1AH
- Mynediad AM DDIM
- Croeso i gŵn (heblaw am ardal y traeth)
I holi am ofod masnachu a’r digwyddiad yn gyffredinol, anfonwch e-bost i digwyddiadau@caerffili.gov.uk.
Dydd Sadwrn 31 Awst – Dydd Sul 1 Medi 2024
Gŵyl y Caws, Caerffili

Bydd Gŵyl y Caws Caerffili yn digwydd yng nghanol tref Caerffili ar ffurf digwyddiad cerdd gyda nifer o ardaloedd cerdd ar hyd Cardiff Road a Chanolfan Siopa Cwrt y Castell, yn ogystal â phrif lwyfan ym Maes Parcio’r Twyn. Bydd y digwyddiad yn gartref i gerddorion lleol a phrif gerddorion ynghyd â nifer o stondinau bwyd a diod.
- 9am-8pm (Dydd Sadwrn)
- 9am-5pm (Dydd Sul)
- Canol tref Caerffili, CF83 1JL
- Mynediad AM DDIM
- Croeso i gŵn
I holi am ofod masnachu a’r digwyddiad yn gyffredinol, anfonwch e-bost i digwyddiadau@caerffili.gov.uk.
Dydd Sadwrn 14 Medi 2024
Gŵyl Bwyd Rhisga

Mae digwyddiad newydd sbon yn dod i ganol tref Rhisga yr haf hwn! Cadwch lygad ar y dudalen hon am ddiweddariadau a gwybodaeth, yn dod yn fuan!
- 10am-4pm
- Parc Tredegar, NP11 6BX
- Mynediad AM DDIM
- Croeso i gŵn
I holi am ofod masnachu a’r digwyddiad yn gyffredinol, anfonwch e-bost i digwyddiadau@caerffili.gov.uk.
Dydd Sadwrn 16 Tachwedd 2024
Ffair y Gaeaf, Ystrad Mynach

Bydd y ffair yn rhoi cyfle i chi ddechrau ar eich siopa Nadolig yn gynnar, gyda detholiad arbennig o tua 30 stondin bwyd a chrefft, a fydd wedi’u gosod ar hyd y dref ac yn gwerthu anrhegion hardd, o addurniadau Nadolig a gemwaith i fwyd pob blasus a danteithion Nadoligaidd traddodiadol.
- 9am-5pm
- Bedwlwyn Road ac Oakfield Street, canol tref Ystrad Mynach, CF82 7AB
- Mynediad AM DDIM
- Croeso i gŵn
I holi am ofod masnachu a’r digwyddiad yn gyffredinol, anfonwch e-bost i digwyddiadau@caerffili.gov.uk.
Dydd Sadwrn 16 – Dydd Sul 17 Tachwedd 2024
Dydd Sadwrn 23 – Dydd Sul 24 Tachwedd 2024
Gweithdai Gwneud Llusernau Afon y Goleuni

Wrth i ni agosáu at dymor y Nadolig, beth am fwynhau rhywfaint o amser hwyliog i’r teulu AM DDIM a dod â’r plant i greu llusern Nadoligaidd arbennig ar gyfer Gorymdaith Lusernau Afon y Goleuni yng nghanol tref Caerffili ddydd Sadwrn 30 Tachwedd.
- 10am-5pm
- Canolfan Gymunedol y Twyn, Caerffili, CF83 1JL
- Mynediad AM DDIM
I holi am y digwyddiad yn gyffredinol, anfonwch e-bost i digwyddiadau@caerffili.gov.uk.
Dydd Sadwrn 23 Tachwedd 2024
Ffair y Gaeaf, Coed Duon

P’un a ydych chi’n dymuno prynu anrheg Nadolig gynnar i chi eich hun neu’n chwilio am anrheg unigryw ar gyfer rhywun arbennig, gallwch grwydro o gwmpas detholiad bendigedig o stondinau bwyd a chrefft, yn ogystal â’r ystod wych o siopau annibynnol a brandiau’r stryd fawr. Mae’r digwyddiad hwn yn rhoi cyfle delfrydol i chi gychwyn ar eich siopa Nadolig chi.
Bydd digonedd o adloniant i’r teulu cyfan gyda dewis eang o reidiau ffair, yn ogystal â chymeriadau stryd a sioeau stryd Nadoligaidd! Bydd Cyngor Tref Coed Duon yn cynorthwyo’r digwyddiad gyda phrif lwyfan dan ei sang gyda grwpiau, dawnswyr a chantorion lleol i chi deimlo ysbryd yr ŵyl.
- 9am-5pm
- Stryd Fawr, canol tref Coed Duon, NP12 1AH
- Mynediad AM DDIM
- Croeso i gŵn
I holi am ofod masnachu a’r digwyddiad yn gyffredinol, anfonwch e-bost i digwyddiadau@caerffili.gov.uk.
Dydd Sadwrn 23 Tachwedd 2024
Dydd Sadwrn 30 Tachwedd 2024
Dydd Sadwrn 7 Rhagfyr 2024
Gweithdai Gwneud Llusernau Bargod

Wrth i ni agosáu at dymor y Nadolig, beth am fwynhau rhywfaint o amser hwyliog i’r teulu AM DDIM a dod â’r plant i greu llusern Nadoligaidd arbennig ar gyfer Gorymdaith Lusernau Cerddoriaeth a Goleuni NEWYDD yng nghanol tref Bargod ddydd Sadwrn 7 Rhagfyr.
- 10am-4pm
- Neuadd Eglwys Santes Gwladys, Bargod, CF81 8RP
- Mynediad AM DDIM
I holi am y digwyddiad yn gyffredinol, anfonwch e-bost i digwyddiadau@caerffili.gov.uk.
Dydd Sadwrn 30 Tachwedd
Ffair y Gaeaf, Caerffili, yn cynnwys Gorymdaith Lusernau Afon y Goleuni ac Arddangosfa Tân Gwyllt

Ffair Bwyd a Chrefft y Gaeaf yng Nghaerffili ar ddydd Sadwrn 30 Tachwedd yw’r lle perffaith i chi deimlo ysbryd y Nadolig. Profwch olygfeydd, seiniau ac arogleuon y dref a’r castell wrth baratoi ar gyfer y Nadolig, gyda bwyd stryd blasus, arogl gwin brwd, theatr stryd gyffrous a dros 60 o stondinau bwyd, crefft a rhoddion, gan gynnwys atyniadau ffair i ddiddanu’r holl deulu!
- Amseroedd digwyddiadau:
- 9am-6pm (Ffair y Gaeaf)
- 5pm (Gorymdaith Lusernau Afon y Goleuni)
- 5:45pm (Arddangosfa Tân Gwyllt)
- Canol tref Caerffili, CF83 1JL
- Mynediad AM DDIM
- Croeso i gŵn
I holi am ofod masnachu a’r digwyddiad yn gyffredinol, anfonwch e-bost i digwyddiadau@caerffili.gov.uk.
Dydd Sadwrn 7 Rhagfyr
Ffair y Gaeaf, Bargod, yn cynnwys Gorymdaith Lusernau Cerddoriaeth a Goleuni

Bydd Bargod yn dod yn fyw ddydd Sadwrn, 10 Rhagfyr, wrth i’r dref gynnal ei ffair Nadoligaidd flynyddol. Bydd stondinau Nadoligaidd, adloniant a reidiau ffair yn dod â’r fflach Nadoligaidd ychwanegol hwnnw i’r dref, gan gynnig gwledd go iawn i drigolion lleol.
Bydd Cyngor Tref Bargod yn cynorthwyo’r digwyddiad gydag ymddangosiad gan Siôn Corn ac ychydig o adloniant Nadoligaidd hwyliog.
- Amseroedd digwyddiadau:
- 9am-6pm (Ffair y Gaeaf)
- 5pm (Gorymdaith Lusernau Cerddoriaeth a Goleuni)
- Canol tref Bargod, CF81 8QR
- Mynediad AM DDIM
- Croeso i gŵn
I holi am ofod masnachu a’r digwyddiad yn gyffredinol, anfonwch e-bost i digwyddiadau@caerffili.gov.uk.